Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Dirt Is Good?
Rydyn ni wedi ateb rhai cwestiynau cyffredin am Dirt is Good isod, ond cysylltwch â ni os nad ydyn ni wedi ateb eich cwestiwn chi.
Rhaglen yw Dirt is Good sy’n gallu cael ei redeg gan athrawon neu arweinwyr ieuenctid gyda grwpiau o bobl ifanc. Mae’n galluogi’r bobl ifanc i weithredu ar yr achosion amgylcheddol a chymdeithasol sy’n bwysig iddyn nhw.
Gall athrawon gofrestru am y rhaglen Dirt Is Good trwy ddarparu manylion cyswllt a chod post eich ysgol, a chreu cyfrinair. Yna byddwch yn gallu mewngofnodi i gael mynediad i lawlyfr Dirt Is Good, gweithgareddau i’w cynnal gyda’ch grwpiau Dirt Is Good a mwy.
Y grŵp delfrydol fyddai 8-10 o fyfyrwyr, ond mae’r rhaglen wedi’i dylunio i fod yn hyblyg ac yn gallu gweithio gyda grwpiau llai neu fwy. Os ydych chi'n gweithio gyda niferoedd mwy o fyfyrwyr, ystyriwch eu rhannu'n grwpiau lluosog. Mae grwpiau llai yn helpu myfyrwyr i fwrw iddi a gweld bod gan bawb rôl i'w chwarae.
Mae Dirt Is Good yn broses sy’n cefnogi pobl ifanc i ddewis eu prosiectau a’u pynciau eu hunain i fynd i’r afael â’r problemau cymdeithasol ac amgylcheddol sydd o ddiddordeb iddyn nhw.
Na, gall eich taith Dirt Is Good ddechrau unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn, ond byddem yn awgrymu eich bod yn cofrestru cyn Gwyliau’r Nadolig i sicrhau bod gennych ddigon o amser i gwblhau cylchred y rhaglen o fewn blwyddyn academaidd ac elwa o'r digwyddiadau byw.
Gall pobl ifanc o unrhyw oedran gwblhau’r rhaglen, ond mae’r adnoddau ategol wedi’u cynllunio ar gyfer oedrannau 7-11 ac 11-14.
Mae Newidwyr Dirt Is Good yn gwneud daioni gyda'i gilydd. Mae'n rôl y maen nhw'n tyfu iddi. Maen nhw'n gwella gyda phob gweithgaredd Dirt Is Good maen nhw'n ei wneud.
Mae Newidwyr Dirt Is Good yn unedig mewn trugaredd; maen nhw’n bwrw iddi; maen nhw’n adnabod eu rôl; maen nhw ar daith.
Mae Y Ffordd Dirt Is Good yn ffordd newydd o egnïo Newidwyr ifanc. Mae'n hyrwyddo gwerthoedd tosturiol ac yn eu gwneud yn weladwy. Ei nod yw normaleiddio gweithredu ar y cyd a dangos bod gan bawb rôl i’w chwarae wrth greu byd gwell. Mae Y Ffordd Dirt Is Good wedi’i seilio ar bedair egwyddor allweddol ac wedi’i dylunio gan ddefnyddio mewnwelediadau o’r ymchwil ddiweddaraf i beth sy’n ysgogi pobl ifanc i weithredu.
Pedair egwyddor Dirt Is Good yw ein bod ni’n Unedig mewn Trugaredd, mae gan Bawb Rôl i'w Chwarae, y gallwn ni Fwrw Iddi a’n bod ni i gyd Ar Daith. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Egwyddorion Dirt Is Good yma.
Mae Y Ffordd Dirt Is Good yn ganlyniad partneriaeth rhwng yr elusen Global Action Plan UK ac Unilever. Yn y DU Y Ffordd Dirt Is Good yw sylfaen y rhaglen ysgolion Dirt Is Good sy'n cael ei chyflenwi gan Future Foundations.
Rydyn ni’n cynnig hyfforddiant DPP o bell/ar-lein i athrawon yn y DU sy’n cofrestru am y rhaglen. Yn y dyfodol bydd gennyn ni weminarau a hyfforddiant ar-lein arall i athrawon ar y wefan hon - cadwch lygad allan!
Byddwn yn cynnal sesiynau Holi ac Ateb byw bob yn ail wythnos rhwng 8fed Medi a 10fed Tachwedd a Sesiynau Galw Heibio wythnosol Zoom gyda thîm Future Foundations. Cliciwch yma am fwy o fanylion.
cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni os nad yw eich cwestiwn wedi'i ateb uchod, mae croeso i chi gysylltu â ni, a byddwn yn dod yn ôl atoch cyn gynted ag y gallwn.