Terms of Use

This website contains two copies of our Terms Of Use - one for kids and one for adults! So, read on for the kid-friendly version, or click here to jump to the adult version.

WEBSITE TERMS OF USE for kids!

 

This policy is essentially a rulebook that sets out the way in which people should act and behave when they're using our website. You can think of it like a Code Of Conduct!

 

We published this list of rules to make sure that people use our website as it was intended to be used – with fairness, fun and in good faith. Sadly, if you don't agree to our Terms Of Use then this website isn't for you, and we'd advise you not to use the Dirt Is Good Project website.

These Terms Of Use are protected by English and Irish law. We work very hard to make sure our content is accurate and up-to-date, but sometimes we make mistakes. If you find a mistake in our Terms of Use, please don't give up on them altogether! The rest of the Terms of Use will still be valid, so you can continue to follow them.

As a visitor to our website, it is up to you to follow these rules and not up to us (Global Action Plan) to enforce them.

Who owns this website?

The Dirt is Good Academy belongs to Unilever UK Limited, and is run and maintained by Global Action Plan. You can read more about both of these companies in our Privacy Policy.

As owners and operators of the website, we have the right to ask you to follow certain rules when you're using it. This page, together with the information in our Privacy Policy, lists out those rules.

From time to time, we might change or update these rules, so it's a good idea to check back here regularly to ensure you're still following the rules.

 

Continue reading to learn more!

Who can use this website?

Anyone can use our website, apart from a few exceptions:

  • If you're under the age of 16, you'll need permission from your parent or teacher.
  • If there's a legal reason (a reason written in the law) against it, you cannot use our website.

Access to this website

This website has been created for people who live in the United Kingdom and Republic of Ireland. We work hard to make the website fun for everyone, but the content might not be quite right for your location or might not be available to use in your location.

While we try our best to ensure our website is available to everyone, everywhere, access is dependent on your internet connection and the devices you use to access the internet. If you don't have access to these, or they're broken for some reason, we aren't responsible for that.

Websites are constantly changing, and sadly, don't always last forever! At times, the website might be unavailable, access might be restricted or the website might close permanently. We also have the right to refuse people's access to the website. At these times, our decision is final.

Use of this website

This website was built as a fun, learning experience for student teams – and that should be the only way it's used! Certain activities and behaviours are not allowed on this website. We've listed these banned behaviours below:

  • Automated applications and processors, like digital robots or spiders, are not allowed on this website.
  • No-one is allowed to access this website without permission, or to gain unauthorised entry (known as hacking). We will report these instances to the law.
  • You're not allowed to use this website in any way that goes against the law.
  • The content on this website, such as imagery, logos, videos, articles, and the website name, 'Dirt Is Good Project', belongs to Unilever, and is protected by copyright law – this means you can't copy them or re-use the content for any other purpose than your own learning or reading. If you'd like to use the content on this website for anything else, you'll need to get in touch with us and ask our permission first.

Uploading content to this website

There are areas of the website where users can add their own content (e.g. sharing stories on your project progress). In these instances, you must agree to following the below rules:

  • Any content that you add to our site must be free of bad language and mustn't contain words or language that might upset or harm others.
  • You mustn't pretend to be someone else, or pretend to be anyone from the Dirt Is Good Project.
  • When uploading content on our site you grant us the right to use the material as we wish. Of course, if what you upload is in any way personal or reveals your identity, we'll always seek your parent/guardian's permission to use it first.
  • If, for any reason, we don't think your upload is suitable for the Dirt Is Good Project, we have the right to remove it, and our decision is final.

Links to and from this website

While using our website, you might come across links to other websites. We're careful about which sites we link to, but ultimately we're not responsible for the content you might find on these other sites.

If you'd like to let others know about our website, you can send/post a link to our homepage, so long as you do it in a way that doesn't break the law, damage our reputation, or pretend that you own the website/are officially connected with it.

We have the right to stop you from linking to our website at any time and for any reason. Our decision in these matters is final.

Content on this website

While we do our absolute best to make our content as brilliant and accurate as it can be, very occasionally we may get our facts wrong, or changing times and situations might mean that our content has become outdated. On these occasions, we'll work to correct our information, but we cannot be held responsible if it's wrong.

We can update our content at any time, so if you visit the website at a later date, you might find that it's changed. On those occasions, we can't be held responsible for content that you can no longer access.

While we do our absolute best to keep our website safe and secure, we aren't responsible for any damage your device suffers from visiting our website (e.g., if a virus enters your computer).

We also can't be held responsible for any other forms of damage or loss that happen as a result of visiting our website, such as a loss of data or wasting your time.

TELERAU DEFNYDD Y WEFAN 

 

Darperir y wefan hon er gwybodaeth ac adloniant i chi, a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau ei defnyddio. Porwch y wefan a gwnewch ddefnydd o'i nodweddion amrywiol, ond byddwch yn ymwybodol bod eich defnydd o'r wefan yn amodol ar y Telerau Defnydd canlynol. Mae eich defnydd o'r wefan hon a'r Gwasanaethau (a ddiffinnir isod) yn dangos eich bod yn cytuno â'r Telerau Defnydd.

 

OS NAD YDYCH YN CYTUNO Â'R TELERAU DEFNYDD HYN, PEIDIWCH Â DEFNYDDIO'R WEFAN HON. 

 

Fe welwch ein bod wedi cynnwys crynodebau byr ar ddechrau rhai adrannau. Nid yw'r rhain yn cymryd lle darllen y telerau yn eu cyfanrwydd. Maent yno er hwylustod yn unig ac nid oes ganddynt unrhyw effaith gyfreithiol na chytundebol. 

 

1. PERCHNOGAETH, GWEITHREDIAD A CHYTUNDEB I GAEL EICH RHWYMO GAN Y TELERAU DEFNYDD HYN 

 

Mae’r wefan hon yn perthyn i Unilever UK Limited (“Unilever”, “ni” ac “ein”), sy’n aelod o gwmnïau Unilever Group. I gael rhagor o wybodaeth am gwmnïau Unilever Group a'u brandiau cynnyrch, cliciwch yma. 

 

Mae eich defnydd, boed yn bersonol neu ar ran cwmni, o’r wefan hon ac unrhyw gymwysiadau, meddalwedd, data, cynhyrchion, cystadlaethau, rafflau, ac unrhyw wasanaethau eraill a ddarperir i chi ar, neu oddi wrth, neu drwy’r wefan gan Unilever (a elwir gyda’i gilydd yn “Gwasanaethau”), yn ddarostyngedig i delerau cytundeb cyfreithiol rhyngoch chi ac Unilever. Mae'r cytundeb cyfreithiol hwn yn cynnwys y Telerau Defnydd hyn, gan gynnwys telerau ychwanegol cymwys, os o gwbl, ynghyd â 

  •  1. y Polisi Preifatrwydd, a
  • 2. y Polisi Cwcis

(a elwir gyda’i gilydd yn “Bolisïau Unilever”). 

 

I'r graddau y bydd unrhyw wrthdaro rhwng y Telerau Defnydd ac unrhyw Bolisïau Unilever eraill o ran y pwnc y rhoddir sylw iddo yn y Telerau Defnydd hyn, y Telerau Defnydd fydd drechaf. I'r graddau y bydd unrhyw wrthdaro rhwng y Telerau Defnydd Saesneg ac unrhyw fersiwn a gyfieithwyd, y Telerau Defnydd Saesneg fydd drechaf. 

 

Rydych yn cytuno y gallwn newid neu ddiwygio'r Telerau Defnydd hyn o bryd i'w gilydd trwy ddiweddaru'r postiad hwn, ac y bydd newidiadau neu ddiwygiadau o'r fath yn dod i rym yn syth ar ôl i ni bostio. Ymwelwch â'r adran hon bob tro y byddwch yn ymweld â'r wefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y Telerau Defnydd cyfredol. Mae eich defnydd o'r wefan yn ailddatgan eich cytundeb parhaus i'r Telerau Defnydd presennol. Rheolir y wefan ar ran Unilever gan Global Action Plan. 

 

2. CYMHWYSTER A MYNEDIAD 

 

Ni chewch ddefnyddio’r wefan ac efallai na chewch dderbyn y Telerau Defnydd os (a) ydych o dan 16 oed, neu (b) os ydych wedi’ch atal neu fel arall wedi’ch gwahardd yn gyfreithiol rhag defnyddio neu gael mynediad i’r wefan o dan gyfreithiau’r wlad rydych yn breswylydd ynddi. Os ydych dros 16 oed ond o dan 18 oed, dylech adolygu’r Telerau Defnydd hyn gyda’ch rhiant neu warcheidwad i wneud yn siŵr bod y ddau ohonoch yn eu deall. 

 

Caniateir mynediad i'r wefan dros dro, ac mae Unilever yn cadw'r hawl yn ei ddisgresiwn llwyr i addasu neu derfynu'r wefan neu rannau penodol ohoni heb rybudd i chi. Ni fyddwn yn atebol os nad yw ein gwefan ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm. 

 

Yn amodol ar y gyfraith berthnasol, rydym yn cadw’r hawl i atal neu derfynu mynediad i’r wefan a/neu’r Gwasanaethau heb rybudd am fethu â chydymffurfio â Thelerau Defnydd neu Bolisïau Unilever, am dorri hawlfraint neu unrhyw hawl eiddo deallusol arall, neu am unrhyw reswm arall (gan gynnwys mân droseddau ailadroddus). Bydd y penderfyniad i derfynu mynediad unigolyn i’r wefan neu’r Gwasanaethau yn derfynol ac yn rhwymol. 

 

3. DEFNYDDIO'R WEFAN 

 

Rhaid i chi beidio â chopïo, monitro na chyrchu unrhyw ran o’r wefan gan ddefnyddio mecanwaith neu broses awtomeiddiedig fel robot neu gorryn cop. Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i unrhyw ran o'r wefan trwy hacio neu unrhyw fodd tebyg. Rhaid i chi beidio â defnyddio'r wefan at ddiben anghyfreithlon neu ddibenion anghyfreithlon. 

 

4. PREIFATRWYDD 

 

Mae Unilever yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif a bydd yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gennych ar y wefan hon yn unol â'n Polisi Preifatrwydd. Trwy ddefnyddio'r Gwasanaethau rydych yn cytuno y gallwn ddefnyddio'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych yn unol â'r Polisi Preifatrwydd a enwyd uchod. 

 

5. PERCHNOGAETH A DEFNYDD O DDEFNYDDIAU, CYNHYRCHION A GWASANAETHAU'R WEFAN .

 

Ac eithrio Cyflwyniadau Defnyddwyr, Unilever sy'n berchen ar yr hawliau eiddo deallusol am yr holl ddeunyddiau ar y wefan neu mae ganddo hawl ddilys gan drydydd parti i ddefnyddio deunyddiau ar y wefan. Mae Unilever hefyd yn berchen ar yr holl nodau masnach, nodau gwasanaeth, graffeg a logos a ddefnyddir ar y wefan hon, neu mae ganddo hawl ddilys i'w defnyddio. Oni nodir yn benodol, ni chaniateir i unrhyw ran o'r wefan gael ei chopïo, ei hatgynhyrchu, ei hailgyhoeddi, ei lanlwytho, ei phostio, ei throsglwyddo na'i dosbarthu mewn unrhyw ffordd. 

 

Os byddwch yn lawrlwytho meddalwedd neu gynnwys digidol arall, gan gynnwys apiau, o’r wefan hon (“Cynhyrchion”), bydd y Cynhyrchion, a’r holl ffeiliau, delweddau a data sy’n ymwneud â nhw, yn cael eu trwyddedu i chi gan Unilever o dan y telerau ac amodau perthnasol. Rydych yn gwarantu ac yn cynrychioli i Unilever na fydd gweithgaredd o'r fath yn groes i unrhyw gyfraith berthnasol yn eich Gwlad. 

 

Rydych chi (ac nid Unilever) yn sgwyddo cost gyfan yr holl waith gwasanaethu, atgyweirio neu gywiro a all fod yn angenrheidiol ar gyfer eich offer cyfrifiadurol a'ch meddalwedd o ganlyniad i unrhyw firysau, cydrannau niweidiol, gwallau neu unrhyw broblemau eraill a allai fod gennych o ganlyniad o ymweld â'r wefan hon. 

 

 Rydych chi'n cytuno ac yn cydnabod nad chi sy'n berchen ar y Cynhyrchion sydd wedi'u lawrlwytho, ac nad yw Unilever yn trosglwyddo perchnogaeth y Cynhyrchion i chi. Mae Unilever yn cadw perchnogaeth a theitl llawn y Cynhyrchion a lawrlwythwyd a'r holl hawliau eiddo deallusol sy'n gysylltiedig â hynny. Ni chewch ailddosbarthu, gwerthu, dadgrynhoi, peiriannu o chwith, dadosod, neu leihau fel arall y Cynhyrchion i ffurf y gall pobl ei darllen. 

 

 6. CYFLWYNIADAU DEFNYDDWYR 

 

 CYFLWYNO CYNNWYS 

 

 Gall rhai rhannau o'r wefan eich gwahodd neu'ch galluogi i bostio, lanlwytho, mewnosod, arddangos neu gyfathrebu fel arall testun, negeseuon, ffotograffau, fideos, recordiadau sain, cerddoriaeth (gan gynnwys geiriau), graffeg, lluniadau, awgrymiadau, syniadau (gan gynnwys cynnyrch a hysbysebu syniadau), eich enwau chi a/neu bobl eraill, tebygrwydd, lleisiau, enwau defnyddwyr, perfformiadau  a gwybodaeth, deunyddiau neu gynnwys arall sy'n berchen i chi neu wedi'i greu gennych chi (gyda'i gilydd, "Cyflwyniadau Defnyddwyr"). 

 

 BYDD UNILEVER YN YSTYRIED CYFLWYNIADAU DEFNYDDWYR YN DDIGYFRINACHOL AC AMHERCHNOGOL AC NI FYDD O DAN YMRWYMIAD I GYNNAL CYFRINACHEDD UNRHYW WYBODAETH SY'N CAEL EI CHYNNWYS YN EICH CYFLWYNIAD DEFNYDDWYR. 

 

 HAWLIAU I GYFLWYNO CYNNWYS 

 

 Rydych yn gwarantu ac yn cynrychioli bod gennych (ac y byddwch yn parhau i'w cael yn ystod eich defnydd o'r wefan) yr holl hawliau, trwyddedau, cydsyniadau a chaniatadau angenrheidiol sy'n ofynnol i alluogi cwmnïau Unilever, Unilever Group a/neu ddarparwyr cynnwys i ddefnyddio'ch Cyflwyniadau Defnyddiwr at y dibenion a ragwelir gan y wefan a'r Telerau Defnydd hyn. 

 

 Rydych yn gwarantu ymhellach ac yn datgan bod gennych gydsyniad, rhyddhad, a/neu ganiatâd pob unigolyn adnabyddadwy yn eich Cyflwyniadau Defnyddiwr i ddefnyddio ei enw, ei enw defnyddiwr neu ei debyg yn y modd a ystyrir gan y wefan a'r Cynhyrchion, Gwasanaethau neu deunyddiau eraill ar y wefan neu sydd ar gael ohoni. 

 

 NATUR Y CYNNWYS A GYFLWYNIR 

 Mewn cysylltiad â Chyflwyniadau Defnyddwyr, rydych yn cytuno ac yn gwarantu: 

 

  • 1. na fyddwch yn cyflwyno unrhyw Gyflwyniad Defnyddiwr sy'n ddarostyngedig i unrhyw hawl gan drydydd parti gan gynnwys, heb gyfyngiad: hawlfraint, patent, nod masnach, cyfrinach fasnach, neu hawl berchnogol neu gytundebol arall; hawl i breifatrwydd neu gyhoeddusrwydd; neu gwybodaeth gyfrinachol oni bai mai chi yw perchennog hawliau o'r fath neu mae gennych ganiatâd gan y perchennog/perchnogion cyfreithlon i gyflwyno'r Cyflwyniad Defnyddiwr ac i roi'r hawliau a nodir yma;
  • 2. ni fydd y Cyflwyniadau Defnyddiwr, na'r defnydd o'r Cyflwyniadau Defnyddiwr fel a ganiateir yn y Telerau Defnydd hyn, yn tresmasu ar hawliau unrhyw berson neu endid neu unrhyw gyfreithiau cymwys, nac yn eu torri;
  • 3. ni fyddwch yn cyflwyno Cyflwyniadau Defnyddwyr sy'n anghyfreithlon i chi eu meddu yn y wlad rydych yn byw ynddi, neu y byddai'n anghyfreithlon i Unilever eu defnyddio neu eu meddu mewn cysylltiad â darparu'r wefan neu'r Gwasanaethau; a
  • 4. ni fyddwch yn cyflwyno Cyflwyniad Defnyddiwr sydd: yn anghyfreithlon neu’n annog neu’n cymeradwyo gweithredoedd anghyfreithlon neu drafod gweithredoedd anghyfreithlon gyda’r bwriad o’u cyflawni, gan gynnwys  ond heb fod yn gyfyngedig i ddelio cyffuriau, cam-drin cyffuriau, pornograffi plant, ymosodiad corfforol neu rywiol, stelcian, lladrad, twyll neu gynllwynio i gyflawni a gweithred droseddol; yn ddifenwol, yn fygythiol, yn sarhaus, yn aflonyddu neu'n tresmasu ar breifatrwydd; yn wahaniaethol neu'n rhagfarnu ar sail hil, lliw, crefydd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, anabledd neu fel arall; yn anweddus, yn bornograffig neu'n rhywiol amlwg fel arall; yn beryglus, yn anghyfrifol neu'n wrthgymdeithasol neu'n annog neu'n goddef ymddygiad peryglus, anghyfrifol neu wrthgymdeithasol; yn cynnwys firws, ysbïwedd neu gydran niweidiol arall, neu fel arall yn amharu ar, yn torri ar draws neu’n niweidio’r wefan, y Gwasanaethau neu unrhyw rwydwaith cysylltiedig, neu fel arall yn ymyrryd â defnydd neu fwynhad person ohono; neu yn cynnwys unrhyw hysbyseb, deisyfiad, llythyr cadwyn, cynllun pyramid, cyfle buddsoddi neu gyfathrebiad masnachol digymell arall. 

 

Rydych yn deall ac yn cytuno mai chi yn unig sy'n gyfrifol am eich Cyflwyniadau Defnyddiwr eich hun a chanlyniadau eu postio neu eu cyhoeddi gennych. 

 

 Drwy lanlwytho Cyflwyniadau Defnyddwyr rydych yn deall y gallent fod ar gael i’r cyhoedd ac rydych yn cytuno i beidio â haeru mewn unrhyw ran o’r byd unrhyw hawliad am dresmasu ar breifatrwydd, torri eich hawliau o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 neu neilltuo eich hawl i gyhoeddusrwydd sy'n deillio o ddefnydd Unilever o'ch Cyflwyniadau Defnyddiwr neu allan ohono yn unol â'r Telerau Defnydd hyn. 

 

Os dymunwch gyflwyno gwybodaeth sy’n destun patent a gyhoeddwyd neu gais am batent a gyhoeddwyd yn yr arfaeth, yna ewch i’r adran Arloesi ar wefan Unilever ( https://www.unilever.com/innovation/collaborating/workingwithus/index.aspx). Dyma'r fforwm priodol am syniadau cynnyrch a thechnoleg technegol sy'n ymwneud â'n cynnyrch a'n brandiau. Os yw eich Cyflwyniad Defnyddiwr yn destun patent sydd ar y gweill neu wedi'i gyhoeddi, rhaid i chi ddatgelu'r ffaith hon i Unilever. 

 

 UNILEVER A'CH CYFLWYNIADAU 

 

  • 1. Nid oes gan Unilever unrhyw rwymedigaeth i ddefnyddio'ch Cyflwyniad Defnyddiwr mewn unrhyw ffordd ac ni fydd yn ofynnol i Unilever roi rhesymau am wrthod eich Cyflwyniad Defnyddiwr nac i nodi gweithgareddau Unilever sy'n ymwneud â'ch Cyflwyniad Defnyddiwr mewn unrhyw ffordd.
  • 2. Nid oes gan Unilever unrhyw rwymedigaeth i'ch digolledu am unrhyw ddefnydd o'ch Cyflwyniad Defnyddiwr fel y rhagwelir gan y wefan a'r Telerau Defnydd hyn.
  • 3. Gall Unilever ddefnyddio'ch enw i briodoli eich Cyflwyniad Defnyddiwr i chi (er na fydd rheidrwydd arnom i wneud hynny).
  • 4. Yn ogystal, rydych yn deall ac yn cytuno, wrth ddefnyddio'r wefan, y gallech ddod i gysylltiad â Chyflwyniadau Defnyddwyr sy'n cael eu postio a/neu eu cyflwyno gan ddefnyddwyr eraill. Nid yw Unilever yn gyfrifol mewn unrhyw fodd am Gyflwyniadau Defnyddwyr, ac nid yw Unilever yn gwarantu cywirdeb, uniondeb, ansawdd na hawliau eiddo deallusol, nac yn ymwneud â, Chyflwyniadau Defnyddwyr o'r fath. Yn ogystal, ni all Unilever sicrhau na fydd Cyflwyniadau Defnyddwyr niweidiol, anghywir, twyllodrus, sarhaus, bygythiol, difenwol, anghyfreithlon neu annymunol fel arall yn ymddangos ar y wefan.
  • 5. Heb gyfyngu ar gyffredinolrwydd yr uchod, rydych yn cydnabod ac yn cytuno nad yw'r wybodaeth, y deunyddiau a'r farn a fynegir neu a gynhwysir mewn unrhyw Gyflwyniadau Defnyddiwr o reidrwydd yn rhai Unilever na'i endidau neu ddarparwyr cynnwys cysylltiol neu gysylltiedig ac mae Unilever yn gwadu'n benodol unrhyw un a phob un atebolrwydd mewn cysylltiad ag unrhyw Gyflwyniad Defnyddiwr. Rydych yn cytuno i ildio, a thrwy hyn yn ildio, unrhyw hawliau neu rwymedïau cyfreithiol neu ecwitïol sydd gennych neu a allai fod gennych yn erbyn Unilever mewn perthynas ag unrhyw Gyflwyniadau Defnyddiwr.
  • 6. Trwy lanlwytho Cyflwyniadau Defnyddwyr rydych yn deall y gallent fod ar gael i'r cyhoedd ac rydych yn cytuno i beidio â haeru mewn unrhyw ran o'r byd unrhyw hawliad am dresmasu ar breifatrwydd, torri eich hawliau o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 neu feddiannu eich hawl cyhoeddusrwydd sy'n deillio o ddefnydd Unilever o'ch Cyflwyniadau Defnyddiwr neu o'r defnydd hwnnw yn unol â'r Telerau Defnydd hyn.
  • 7. Heb ragfarn i'n hawliau eraill o dan y Telerau Defnydd hyn neu o dan y gyfraith, mae Unilever yn cadw'r hawl yn ei ddisgresiwn llwyr a heb rybudd ymlaen llaw i wrthod postio, eithrio neu ddileu unrhyw Gyflwyniad Defnyddiwr o'r wefan sy'n torri'r Telerau Defnydd a /neu Bolisïau Unilever.
  • 8. Bydd Unilever yn cydweithredu'n llawn ag unrhyw awdurdodau gorfodi'r gyfraith, gorchymyn llys neu wrthwynebiad sy'n gofyn neu'n cyfarwyddo Unilever i ddatgelu pwy yw unrhyw un sy'n postio Cyflwyniadau Defnyddwyr. I’r graddau y gallwn wneud hynny dan y gyfraith, rydym yn cadw’r hawl i adnabod unrhyw ddefnyddiwr i drydydd parti a/neu ddatgelu unrhyw Gyflwyniad Defnyddiwr neu ddata personol i unrhyw drydydd parti sy’n honni bod Cyflwyniad Defnyddiwr yn torri eu hawliau eiddo deallusol neu eu hawl i breifatrwydd. Gallwn hefyd ddatgelu gwybodaeth o'r fath os credwn yn ddidwyll fod datgeliad o'r fath yn rhesymol angenrheidiol i ddiogelu hawliau, eiddo, neu ddiogelwch personol Unilever, ei gwsmeriaid neu'r cyhoedd.
  • 9. Er nad yw Unilever dan unrhyw rwymedigaeth i adolygu neu fonitro Cyflwyniadau Defnyddwyr, mae Unilever yn cadw'r hawl absoliwt i wneud hynny yn ôl ei ddisgresiwn llwyr. Yn ogystal, mae Unilever yn cadw'r hawl bob amser i newid, golygu, gwrthod postio neu dynnu unrhyw Gyflwyniadau Defnyddiwr oddi ar y wefan, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, am unrhyw reswm neu am ddim rheswm a heb rybudd ymlaen llaw os yw'n dewis gwneud hynny . Rydych yn cytuno nad oes gan Unilever unrhyw rwymedigaeth i ddefnyddio nac ymateb i unrhyw Gyflwyniad Defnyddiwr. 

 

 7. PERCHNOGAETH CYFLWYNIADAU DEFNYDDWYR 

 

Byddwch yn cadw eich holl hawliau perchnogaeth yn eich Cyflwyniadau Defnyddiwr, ond mae'n ofynnol i chi roi hawliau cyfyngedig i Unilever a defnyddwyr eraill y wefan. 

 

Yn gyfnewid am ddefnyddio’r wefan a’r Gwasanaethau, rydych yn rhoi trwydded drosglwyddadwy fyd-eang, ddi-freindal anghyfyngedig, ddi-alw’n-ôl i Unilever (gyda hawl lawn i is-drwyddedu) i ddefnyddio’ch Cyflwyniadau Defnyddiwr at unrhyw ddiben o gwbl (i’r graddau a ganiateir yn ôl y gyfraith) am byth ac yn rhad ac am ddim. 

 

Bydd y drwydded yn cynnwys, heb gyfyngiad, yr hawl i atgynhyrchu, copïo, golygu, addasu, gwneud gweithiau deilliadol, cyfuno â gweithiau eraill, trefnu eu bod ar gael, cydamseru, arddangos, perfformio'n gyhoeddus, darlledu, cyhoeddi, dosbarthu, is-drwyddedu a dileu eich Cyflwyniadau Defnyddiwr. Heb ragfarn i'r uchod, os oes gennych batent yn eich Cyflwyniad Defnyddiwr, mae Unilever yn cydnabod na fydd y Telerau Defnydd hyn yn rhoi unrhyw drwydded i Unilever o dan unrhyw batent o'r fath. 

 

Rydych yn cydnabod ac yn cytuno, os bydd Unilever yn golygu, yn addasu neu'n gwneud gwaith deilliadol o'ch Cyflwyniad Defnyddiwr, neu'n cyfuno'ch Cyflwyniad Defnyddiwr â gweithiau eraill, mai Unilever yn unig fydd yn berchen ar unrhyw hawliau yn y cyfryw addasiadau neu weithiau deilliadol. 

 

Os yw eich Cyflwyniad Defnyddiwr yn cynnwys syniad neu awgrym, rydych yn cydnabod y gallai Unilever, cwmni Unilever Group neu drydydd parti sy’n gweithredu ar ei ran/eu rhan fod wedi gweithio o'r blaen neu wrthi'n gweithio ar yr un syniad neu syniad tebyg. Trwy gyflwyno eich syniad, rydych yn cytuno y gallwn barhau i ddatblygu'r syniad (neu syniad tebyg) yn annibynnol ar eich syniad chi, a heb gydnabod hynny. 

 

Rydych chi drwy hyn yn rhyddhau, yn ddi-alw'n-ôl ac yn ddiamod, ac yn gollwng am byth gwmnïau Unilever ac Unilever Group o unrhyw a phob gweithred, achosion gweithredoedd, hawliadau, iawndal, rhwymedigaethau a galwadau, boed yn absoliwt neu'n amodol, ac o unrhyw natur o gwbl, sydd o bosibl gennych neu a allai fod gennych yn y dyfodol yn erbyn Unilever a/neu unrhyw gwmni Unilever Group mewn perthynas â'ch Cyflwyniad Defnyddiwr, gan gynnwys sut mae cwmnïau Unilever a/neu Unilever Group yn defnyddio'ch Cyflwyniad Defnyddiwr. 

 

 

8. TRWYDDED I DDEFNYDDWYR ERAILL Y WEFAN 

 

Rydych hefyd yn rhoi trwydded anghyfyngedig, fyd-eang, heb freindal i bob defnyddiwr y wefan i gael mynediad i'ch Cyflwyniadau Defnyddiwr drwy'r wefan yn rhad ac am ddim, ac i ddefnyddio, atgynhyrchu, dosbarthu, paratoi gweithiau deilliadol o, arddangos a pherfformio'r cyfryw Gyflwyniadau Defnyddwyr i'r graddau a ganiateir gan ymarferoldeb y wefan ac fel y rhagwelir gan y Telerau Defnydd hyn. 

 

9. CYDSYNIADAU 

 

Rydych yn rhoi pob cydsyniad sy’n ofynnol i Unilever yn unol â Rhan II o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 (a phob deddf arall sydd mewn grym nawr neu yn y dyfodol mewn unrhyw ran o’r byd) a all fod yn ofynnol at ddefnydd cwmnïau Unilever, Unilever Group a/neu ddarparwyr cynnwys eich Cyflwyniadau Defnyddiwr yn unol â'r Telerau Defnydd hyn. 

 

I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, rydych yn ildio'r holl hawliau moesol y gallech fod â hawl iddynt o dan unrhyw ddeddfwriaeth sy'n bodoli nawr neu a ddeddfir yn y dyfodol mewn unrhyw ran o'r byd sy'n ymwneud â'ch Cyflwyniadau Defnyddiwr. 

 

10. CWMPAS DAEARYDDOL Y WEFAN 

 

Mae Unilever yn rheoli ac yn gweithredu'r wefan hon o'r Deyrnas Unedig, ac mae wedi'i chynllunio ar gyfer personau sydd wedi'u lleoli yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon, ac mae gwybodaeth am gynhyrchion, gwasanaethau a hyrwyddiadau yn berthnasol i'r gwledydd hynny yn unig. Nid yw Unilever yn gwneud unrhyw sylw bod deunyddiau yn y wefan hon neu'r Cynhyrchion a ddisgrifir felly yn briodol neu ar gael i'w defnyddio yn eich lleoliad. Mae pob ymwelydd â'r wefan hon yn gyfrifol am gydymffurfio â'r holl gyfreithiau lleol sy'n berthnasol iddynt mewn perthynas â chynnwys a gweithrediad y wefan hon. 

 

Rydych yn cytuno i beidio â chreu dolen â’r wefan hon o wefan nad yw’n cael ei gweithredu gan Unilever, oni bai eich bod wedi cael cydsyniad ysgrifenedig Unilever ymlaen llaw. 

 

 

11. DOLENNI Â GWEFANNAU ERAILL 

 

Er hwylustod a mwynhad i chi, efallai y bydd y wefan hon yn darparu dolenni i wefannau eraill ar y we fyd-eang nad ydynt yn cael eu gweithredu gan Unilever. Nid oes gan Unilever unrhyw reolaeth dros y gwefannau hyn ac nid yw'n gyfrifol am eu hargaeledd. Nid yw Unilever yn cymeradwyo nac yn noddi, ac nid yw Unilever yn gyfrifol nac yn atebol am, unrhyw wybodaeth neu gynnwys sydd ar gael yn y gwefannau cysylltiedig neu unrhyw gynnyrch, neu ddeunyddiau eraill sydd ar neu sydd ar gael o wefannau o'r fath. 

 

Nid yw Unilever yn gyfrifol am weddarlledu nac unrhyw fath arall o drosglwyddiad a dderbynnir o unrhyw wefan gysylltiedig. Yn ogystal, nid yw Unilever yn atebol, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, am unrhyw ddifrod neu golled a achosir neu yr honnir ei fod wedi'i achosi gan neu mewn cysylltiad â'ch defnydd o gynnwys, gwybodaeth, cynhyrchion, nwyddau neu wasanaethau o'r fath sydd ar gael ar neu drwy unrhyw wefannau cysylltiedig o'r fath. 

 

12.CYNNWYS YR YMWADIAD GWEFAN 

 

Darperir y deunydd ar y wefan (gan gynnwys unrhyw graffeg, meddalwedd, cynnwys digidol, argymhellion neu ddeunyddiau eraill) ac unrhyw ddeunydd sydd ar gael trwy'r wefan "fel y mae" a heb amodau neu warantau o unrhyw fath, naill ai'n ddatganedig neu'n oblygedig. I'r graddau eithaf a ganiateir o dan y gyfraith berthnasol, mae Unilever yn gwadu'r holl amodau a gwarantau, yn benodol neu'n oblygedig, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, yr holl warantau goblygedig o werthadwyedd, addasrwydd at ddiben penodol, teitl a pheidio â thorri amodau. 

 

Nid yw Unilever yn gwarantu nac yn gwneud unrhyw sylwadau ynghylch defnydd na chanlyniadau defnydd o'r deunydd ar y wefan o ran ei gywirdeb, ei ddibynadwyedd, neu fel arall. Gallai’r deunydd ar y wefan hon gynnwys gwallau technegol neu wallau teipio a gallai fod yn anghywir neu ddod yn anghywir o ganlyniad i ddatblygiadau sy’n digwydd ar ôl eu dyddiadau priodol. Nid yw Unilever yn ymgymryd ag unrhyw rwymedigaeth i ddilysu neu gynnal cyfredolrwydd gwybodaeth o'r fath. 

 

 

13. GWEITHREDU'R YMWADIAD GWEFAN 

 

 Mae Unilever yn ymdrechu i gynnal y wefan hon a'i gweithrediad, ond nid yw, ac ni all fod, yn gyfrifol am ganlyniadau unrhyw ddiffygion a all fodoli yn y wefan na'i gweithrediad. O ran gweithrediad y wefan, mae Unilever yn gwadu'n benodol yr holl amodau a gwarantau o unrhyw fath, boed yn ddatganedig neu'n oblygedig, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r holl warantau ymhlyg o werthadwyedd neu addasrwydd at ddiben penodol, teitl a heb fod yn dor-rheol. 

 

 Nid yw Unilever yn gwarantu: 

  • 1. y bydd gweithrediad y wefan yn bodloni gofynion y defnyddiwr;
  • 2. y bydd mynediad i'r wefan yn ddi-dor, yn amserol, yn ddiogel, yn rhydd rhag firysau, mwydod, ceffylau trojan neu gydrannau niweidiol eraill, neu'n rhydd rhag diffygion neu wallau;
  • 3. y bydd y canlyniadau y gellir eu cael o ddefnyddio'r wefan yn gywir neu'n ddibynadwy; neu
  • 4. y bydd diffygion yn cael eu cywiro. Chi (ac nid Unilever) sy'n ysgwyddo cost gyfan yr holl waith gwasanaethu, atgyweirio neu gywiro a all fod yn angenrheidiol am eich offer cyfrifiadurol a'ch meddalwedd o ganlyniad i unrhyw firysau, cydrannau niweidiol, gwallau neu unrhyw broblemau eraill sydd gennych o ganlyniad o ymweld â'r wefan hon. 

 

 14. CYFYNGIAD AR ATEBOLRWYDD 

 

 I'r graddau sy'n ofynnol o dan y gyfraith berthnasol, nid ydym yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod neu am gamliwio neu gelu twyllodrus neu am unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu gan gyfraith berthnasol. 

 

 Yn amodol ar gyfraith berthnasol, ni fydd Unilever, cwmnïau Unilever Group, ein trwyddedwyr neu ddeiliaid trwydded, o dan unrhyw amgylchiadau, yn atebol i chi nac unrhyw berson neu endid arall am unrhyw iawndal uniongyrchol, anuniongyrchol, arbennig, damweiniol, canlyniadol, cosbol neu arall, gan gynnwys elw a gollwyd, ewyllys da, cyfle busnes, anaf personol (gan gynnwys marwolaeth) a difrod i eiddo, a allai ddeillio ohono 

 

  • 1. defnyddio'r wefan neu unrhyw ddeunydd ar y wefan, neu'r anallu i'w defnyddio,
  • 2. ymddygiad unrhyw ddefnyddiwr y wefan, boed hynny mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu fel arall. 

Ni fydd Unilever yn atebol hyd yn oed os yw Unilever neu gynrychiolydd awdurdodedig Unilever wedi cael gwybod am y posibilrwydd o'r cyfryw iawndal. Mae’r rhain yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i iawndal neu anaf a achosir gan gamgymeriad, hepgoriad, ymyrraeth, diffyg, methiant perfformiad, colli neu lygru data, oedi wrth weithredu neu drosglwyddo, methiant llinell neu firws cyfrifiadurol, mwydyn, ceffyl Trojan neu gydran niweidiol arall. 

 

Nid yw Unilever yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd sy'n deillio o gynnwys unrhyw Gyflwyniad Defnyddiwr nac am unrhyw enllib, athrod, hepgoriad, anwiredd, anlladrwydd, pornograffi, cabledd, perygl, anghyfreithlondeb, torri hawliau eiddo deallusol, gwall neu anghywirdeb a gynhwysir mewn unrhyw Gyflwyniadau Defnyddiwr. 

 

Mae’n bosibl na fydd cyfraith berthnasol yn caniatáu eithrio gwarantau penodol na chyfyngu neu eithrio atebolrwydd am iawndal achlysurol neu ganlyniadol. Yn unol â hynny, efallai na fydd rhai o'r cyfyngiadau neu waharddiadau uchod yn berthnasol i chi. Fodd bynnag, ni fydd cyfanswm atebolrwydd Unilever i chi o gwbl am iawndal, colledion, ac achosion gweithredu boed mewn contract, camwedd (gan gynnwys, esgeulustod) neu fel arall yn fwy na'r swm a delir gennych chi, os o gwbl, am gyrchu'r wefan. 

 

15. INDEMNIAD 

 

Rydych yn cytuno drwy hyn i amddiffyn, indemnio a dal cwmnïau Unilever, Unilever Group a phob un o'u hasiantau, trwyddedeion, olynwyr ac aseiniaid, yn ddiniwed rhag ac yn erbyn unrhyw a phob hawliad, gweithred neu achos o unrhyw fath ac rhag unrhyw a phob iawndal, atebolrwydd, costau a threuliau, gan gynnwys ffioedd cyfreithiol rhesymol, sy’n ymwneud â neu’n deillio o’ch defnydd o’r wefan, unrhyw ddefnydd o’ch Cyflwyniadau Defnyddiwr fel y caniateir yn y Telerau Defnyddio hyn, a/neu unrhyw doriad neu doriad honedig unrhyw un o’ch gwarantau, cynrychioliadau neu gytundebau isod. 

 

 16. TERFYNIAD 

 

 Mae'r Telerau Defnydd a Pholisïau Unilever yn weithredol a byddant yn parhau felly nes y cânt eu terfynu. Gallwch derfynu’r Telerau Defnydd hyn drwy roi’r gorau i ddefnyddio’r wefan a dinistrio unrhyw ddeunydd a’r holl ddeunydd a gewch o’r wefan. Mae’n bosibl y byddwn yn terfynu’r Telerau Defnydd a Pholisïau Unilever ar unwaith, gan gynnwys eich mynediad i’r wefan, os byddwch yn torri neu’n methu â chydymffurfio ag unrhyw deler neu ddarpariaeth berthnasol yn y Telerau Defnydd. Wrth derfynu, rhaid i chi roi'r gorau i ddefnyddio'r wefan a dinistrio unrhyw ddeunydd a phob deunydd a gewch o'r wefan. 

 

 17. ARGAELEDD CYMORTH 

 

 Gall y wefan hon ddarparu ffeil Gymorth neu gyfarwyddiadau eraill am ddefnyddio'r wefan hon. Fodd bynnag, rydych yn deall nad yw Unilever o dan unrhyw rwymedigaeth i ddarparu unrhyw gymorth am ddefnyddio'r wefan. 

 

 18. CYFRAITH AC AWDURDODAETH BERTHNASOL 

 

 O ran trigolion y DU, bydd y Telerau Defnydd hyn ac unrhyw anghydfodau a all godi o neu mewn cysylltiad â’r telerau ac amodau hyn (p'un a yw'r cyfryw anghydfodau neu faterion yn gytundebol neu’n anghytundebol eu natur, megis hawliadau mewn camwedd, am dorri statud neu reoliad neu fel arall) yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfraith Lloegr. 

 

Mae ymgeiswyr drwy hyn yn ymostwng yn ddiwrthdro i awdurdodaeth unigryw llysoedd Lloegr i ddatrys unrhyw anghydfod neu fater o'r fath. O ran trigolion Gweriniaeth Iwerddon, bydd y Telerau Defnydd hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Iwerddon a bydd gan lysoedd Gweriniaeth Iwerddon awdurdodaeth unigryw. 

 

19. TORADWYEDD 

 

Os canfyddir bod unrhyw ddarpariaeth yn y Telerau Defnyddio hyn yn anghyfreithlon, yn ddi-rym, neu'n anorfodadwy am unrhyw reswm, yna bernir bod y ddarpariaeth honno'n doradwy o'r Telerau Defnyddio hyn ac ni fydd yn effeithio ar ddilysrwydd a gorfodadwyedd unrhyw ddarpariaethau sy'n weddill. 

 

20. DIM ILDIAD 

 

Ni fydd unrhyw fethiant ar ran Unilever i orfodi unrhyw ran o'r Telerau Defnydd hyn yn gyfystyr ag ildio unrhyw un o hawliau Unilever o dan y Telerau Defnydd hyn boed am weithredoedd yn y gorffennol neu yn y dyfodol ar ran unrhyw berson. Ni fernir bod derbyn unrhyw arian gan Unilever na dibyniaeth unrhyw berson ar weithredoedd Unilever yn gyfystyr ag ildio unrhyw ran o'r Telerau Defnydd hyn. Dim ond hepgoriad ysgrifenedig penodol wedi'i lofnodi gan gynrychiolydd awdurdodedig Unilever a fydd ag unrhyw effaith gyfreithiol o gwbl. 

 

21. DIM EFFAITH GYFREITHIOL 

 

Er hwylustod yn unig y mae'r teitlau paragraffau yn y Telerau Defnydd hyn ac nid oes ganddynt unrhyw effaith gyfreithiol na chytundebol. 

 

I ddychwelyd i'r safle roeddech yn ymweld ag ef, pwyswch y botwm yn ôl ar eich porwr. 

 

Hawlfraint © 2022. Cedwir pob hawl.