Mae'r Rhaglen Ysgolion Da Dirt Is Good wedi'i chynllunio ar gyfer grwpiau o fyfyrwyr 7-11 ac 11-14. Mae'n seiliedig ar bedair egwyddor sy'n cyfuno i greu'r Y Ffordd Dirt is Good. Mae'r egwyddorion hyn yn cael eu bwydo trwy'r llawlyfr a'r holl weithgareddau.
Unedig mewn Trugaredd-
helpu pobl ifanc i deimlo nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain mewn bod yn ofalgar ac eisiau gweithredu
Bwrw iddi-
cydnabod bod gweithredoedd yn fwy pwerus na geiriau a bod cymryd camau dros achos yn hwyl
Mae gan bawb rôl i'w chwarae -
sicrhau bod pobl ifanc yn gallu dod o hyd i rôl creu newid sy’n caniatáu iddyn nhw gyflawni eu potensial
Ar daith -
cydnabod nad yw newid bob amser yn digwydd yn gyflym, ei bod yn iawn gwneud camgymeriadau, a bod myfyrio llawn mor bwysig â gweithredu
Mae pobl ifanc yn mwynhau cymryd camau cadarnhaol: Mae bwrw iddi yn teimlo'n hwyl ac yn bwysig. Ond mae eu helpu i ddysgu sgiliau newydd a datblygu caredigrwydd ac empathi yr un mor bwysig. Bydd Dirt Is Good yn helpu eich pobl ifanc i deimlo bod ganddyn nhw rôl i'w chwarae a’n bod ni i gyd yn unedig mewn trugaredd. Byddan nhw'n mynd ar daith ac yn dod yn Changemakers am oes.

Sut i gyfuno Egwyddorion Dirt is Good
Mae Changemakers ifanc yn mynd ar daith, lle maen nhw'n bwrw iddi wrth wneud prosiectau a gweithgareddau sy'n creu newidiadau cymdeithasol ac amgylcheddol cadarnhaol. Mae'r camau gweithredu hyn (a'r myfyrdodau) yn mynd yn gynyddol fwy o faint ac yn fwy dylanwadol dros amser.

Cam 1
Mae’r Ymarferwr yn arwain y gweithredu a’r myfyrio mewn ffordd mwy ymarferol
Cam 2
Gall Changemakers gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu gweithredoedd a'u myfyrdodau
Cam 3
Mae'r ymarferwr yn gallu camu i ffwrdd bron yn llwyr wrth i Changemakers ffynnu ac arwain.
Cam 4
Amser i hedfan y nyth!
Wrth iddyn nhw symud trwy'r cyfnodau hyn, mae changemakers yn cael ymdeimlad cynyddol ein bod ni i gyd yn unedig mewn trugaredd ac yn teimlo'n fwyfwy bod gan bawb rôl i'w chwarae, yn enwedig eu hunain.