Mae'r ffyrdd rydyn ni wedi bod yn byw wedi arwain at fygythiadau mawr i'n byd naturiol.
Bydd y genhedlaeth iau yn profi canlyniadau mwyaf difrifol y gweithredoedd hyn.
Mae'r newidiadau cyflym hyn yn effeithio ar les meddwl pobl ifanc.
Mae ymchwil yn dangos mai un o'r moddion gorau i bryder am faterion cymdeithasol ac amgylcheddol yw gweithredu!
Bu ymchwil newydd a gomisiynwyd gan y Prosiect Dirt Is Good gan Persil yn archwilio gwerthoedd pobl ifanc a sut maen nhw'n canfod gwerthoedd pobl eraill. Canfu’r astudiaeth fod bron pob un o’r bobl ifanc a arolygwyd yn dweud bod gofalu am natur a phobl eraill yn bwysig iddyn nhw ond nad ydyn nhw’n meddwl bod pobl eraill yn rhannu eu gwerthoedd tosturiol. Mae ofnau ynghylch peidio â ffitio i mewn a chael eu labelu â stereoteipiau di-fudd yn eu hatal rhag mynegi eu gwir werthoedd i'w cyfoedion.
86%
o’r bobl ifanc a arolygwyd yn blaenoriaethu gwerthoedd tosturiol yn hytrach na gwerthoedd hunan ddiddordeb
96%
dywedodd fod gofalu am bobl eraill yn 'eithaf' neu'n 'bwysig iawn' iddynt
89%
dywedodd fod gofalu am fyd natur yn 'eithaf' neu'n 'bwysig iawn' iddyn nhw
Dim ond 14% o'r bobl ifanc a holwyd oedd yn blaenoriaethu gwerthoedd hunan-les yn hytrach na gwerthoedd tosturiol. OND erbyn 16-18 oed, roedd bron i hanner (48%) ohonyn nhw'n meddwl y byddai pobl ifanc eraill yn blaenoriaethu gwerthoedd hunan-les. Yr enw ar y camganfyddiad nad oes ots gan y mwyafrif o bobl eraill pan mae mewn gwirionedd, yw'r bwlch gwerthoedd-canfyddiad. Yr astudiaeth yma yw'r cyntaf i ddangos ei fod yn bodoli mewn plant a phobl ifanc. Canfu’r astudiaeth fod y bwlch gwerthoedd-canfyddiad yn effeithio ar bobl ifanc yn y ffyrdd canlynol:
- Mae ganddynt lesiant emosiynol is
- Maent yn teimlo’n fwy pryderus am y dyfodol
- Maent yn llai tebygol o weithredu ar y materion sy’n bwysig iddynt
Mae hyn yn eu cyfyngu rhag cyrraedd eu potensial fel Newidwyr a dinasyddion cyfrifol.
Mae'r Dirt Is Good Project gan Persil yn canolbwyntio ar helpu pobl ifanc i gredu nad peth ymylol yw gweithredu ar faterion cymdeithasol ac amgylcheddol ond yn norm.
Mae'r Project wedi comisiynu papur gwyn:
Generation Action: How to unleash the potential of children and young people to take positive action and create a better world for all.
Mae’r Papur yn datgelu’r camganfyddiad eang bod bodau dynol yn gynhenid â hunanol, ac yn amlygu sut y gallai mynd i’r afael â’r camganfyddiad hwn fod yn allweddol mewn ymdrechion i hyrwyddo a chynnal gweithredu ieuenctid ar faterion cymdeithasol ac amgylcheddol, ac o ganlyniad lles pobl ifanc.
Yn ogystal â’r papur gwyn, mae Global Action Plan wedi datblygu papur ymchwil sy’n cynnwys trosolwg llawn o’n hymchwil gyda phobl ifanc, gan gynnwys y fethodoleg a’r dadansoddiad ystadegol. Mae hefyd yn cynnwys trafodaeth ehangach o’r ffactorau cymdeithasol posibl rydyn ni’n damcaniaethu sy’n cyfrannu at y bwlch gwerthoedd-canfyddiad mewn pobl ifanc, a sut rydyn ni’n gweithio i ymdrin â nhw.